Not Fun For Everyone: Op Bang Halloween and Bonfire Night
|
||
|
|
||
|
||
|
Ddim yn Hwyl i Bawb: Op Bang Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt |
||
|
Cerfio pwmpenni, gwisgoedd ffansi ac arddangosfeydd tân gwyllt ysblennydd; mae Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt yn aml yn uchafbwyntiau yng nghalendr y teulu. Ond gyda lleiafrif bach yn gweld digwyddiadau'r hydref fel esgus i ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol, gall y cyfnod adael llawer yn ein cymunedau'n teimlo'n bryderus, yn ddychrynllyd ac yn ofnus. Gyda hynny mewn golwg, bydd Heddlu De Cymru unwaith eto yn cefnogi Ymgyrch Bang, gan helpu ein cymunedau i fwynhau'r dathliadau'n ddiogel wrth ofyn iddynt gofio nad yw Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt yn Hwyl i Bawb. Bydd ein swyddogion yn parhau i fod yn weladwy yn ein cymunedau yn y cyfnod cyn, ac yn ystod, yr dathliadau i helpu i atal a chanfod ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASB) ac anhrefn. Bydd timau cymdogaeth yn gweithio'n agos gyda phartneriaid awdurdodau lleol a manwerthwyr yn ystod yr wythnosau nesaf, gan atgoffa pawb o'u cyfrifoldebau a rhannu deunyddiau y gellir eu harddangos mewn siopau i ddangos sut maen nhw'n unedig yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol. Bydd ein Cydlynwyr Cyswllt Ysgolion ac asiantaethau partner hefyd yn ymweld ag ysgolion ledled ardal yr heddlu i addysgu disgyblion am beryglon tân gwyllt a choelcerthi yn ogystal â chanlyniadau ymddygiad gwrthgymdeithasol. Pwy i gysylltu â nhw Er mwyn ein helpu i gadw ein llinellau’n rhydd i’r rhai sydd ein hangen fwyaf, gwnewch yn siŵr eich bod yn cysylltu â’r asiantaeth fwyaf perthnasol ac yn defnyddio’r dulliau cysylltu mwyaf priodol. Mae pryderon ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol a diogelwch y cyhoedd yn fater i'r heddlu. Os nad yw'n argyfwng, gallwch gysylltu â ni drwy'r dulliau canlynol: Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.
| ||
Reply to this message | ||
|
|







